CROESI TRAETH (R&D)

Traeth Harlech

Daeth cwsg i gloi fy llygaid ar y traeth                                  

A chrwydrais wlad ryfeddol wedyn

Perfformiad dawns theatr ar draeth Harlech

Daeth y ddawnswraig Margaret Morris i Harlech ym 1919 er mwyn cynnal ysgol haf. Ym myd y freuddwyd ar y traeth, ymuna griw arall gyda hi, ac yn eu plith mae’r cyfarwyddwr ffilm Roman Polanski, a saethodd Macbeth ar draeth Morfa Bychan; ymgyrchwyr Meibion Glyndŵr; yr archangel Mihangel a gofodwyr eraill; ac Ellis Wynne, y Bardd Cwsc ei hun.

O’ch lle ar y tywod, cewch weled byd newydd, gyda chymorth clustffonau ac…ysbienddrych.

Noddir gan Gronfa Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru, Creu Cymru, Ty Cerdd, Cronfa Partneriaeth Eryri, Theatr Ardudwy a Gŵyl Gregynog.

http://gwylgregynogfestival.org/harlech

Ffilm: Culture Colony: https://www.culturecolony.com/media/video/croesi-traeth-light-ladd-emberton