DSC00889.jpeg

Mae Deborah’n byw yng Nghaerdydd ac yn artist dawns a choreograffydd annibynnol. Cyflwynwyd ei gwaith gyda LLE ac ar ei liwt ei hun ledled Prydain a thu hwnt gan gynnwys yn Showcase y Cyngor Prydeinig yng ngŵyl Caeredin; y British Dance Edition/Surf the Wave yng Nghaeredin a Bournemouth; A Nation’s Theatre yng Nghanolfan y Celfyddydau Battersea; a Spring Loaded yn The Place yn Llundain. Dramor bu’n rhan o Cymru yn India a Dance roads. Ennillodd gategori “Cynhyrchiad Dawns Gorau” yng Ngwobrau Theatr Cymru a chyrraedd rhestr fer rownd gyn-derfynol Gwobr The Place yn 2010. Derbynniodd Ddyfarniad Cymru Greadigol yn 2009. 


Mae’n cyfarwyddo gwaith symud ar gyfer y theatr ac wedi gweithio gyda Theatr Genedlaethol Cymru, The Other Room, Frân Wen a Taking Flight. Mae wedi perfformio ar gyfer Joanna Young, Caroline Sabin, Run Ragged/Jem Treays, Sean Tuan John, Longborough Festival Opera, Diversions, Theatr Ddawns Gwlad Pwyl a’r Institute of Crazy Dancing ymysg eraill. Mae’n gwneud llawer o waith dysgu ac yn cefnogi artistiaid eraill fel cymhorthydd creadigol o ran dramatwrgiaeth, mentoria a chynhyrchu. 



Screenshot 2021-04-08 at 20.25.23.png

Roedd yn un o aelodau sylfaenol Groundwork (sefydliad a arweinir gan ei haelodau i gynnig hyfforddiant a chyfleuon datblygu i artistiaid dawns yng Nghymru). Mae’n aelod o dîm Llawryddion Celfyddydol Cymru a bu’n rhan o dasglu DG/Cymru ar gyfer theatr a pherfformio. Mae’n eiriolydd ar ran gweithwyr llawrydd i’r Creative Industries federation ac yn Gydweithiwr Celfyddydol i Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae’n byw yng Nghaerdydd ac mae ganddi dri o blant bach.