‘Disgo Zoom Disco gdg/feat. Owain Glyndŵr’ yng Ngŵyl Green Man (22 Awst)

 

Caiff Disgo Distaw Owain Glyndŵr chwyldroadol Light, Ladd ac Emberton ei ailddychmygu fel Disgo Zoom Disco byw – digwyddiad arbennig ar-lein ar gyfer y cyfnod clo – Fel rhan o ddigwyddiad ar-lein Field of Stream gŵyl Green Man ar 22 Awst 2020.

Am y tair blynedd ddiwethaf, mae Disgo Distaw Owain Glyndŵr wedi cludo cynulleidfaoedd drwy wers unigryw ar hanes Cymru, a ddywedir drwy brofiad disgo tawel, sydd wedi teithio cestyll ledled Cymru; gwyliau ym Mhrydain a chafodd hyd yn oed ei gynnal o flaen adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 2018. Bydd fersiwn cyfnod clo 2020 â’r un stori, ond gall cynulleidfaoedd wirioneddol ailddychmygu sut beth fyddai bywyd mewn gwarchae yn eu castell eu hunain mewn cyfnod clo.

Bydd Disgo Zoom Disco gdg/feat Owain Glyndŵr, fel rhan o ŵyl ar-lein y Green Man ar 22 Awst, yn cadw nodweddion y Disgo Tawel gwreiddiol, ond gyda phrofiad byw a rhyngweithiol rhithiol i’r gynulleidfa o’u cartrefi eu hunain.

Mae hwn yn ddisgo tawel gwahanol i bob un arall – lle bydd y gynulleidfa yn dawnsio gwrthryfel Owain Glyndŵr, y Cymro olaf i fod yn Dywysog Cymru. Mae’n 1339 ac mae Owain Glyndŵr wedi diflannu heb adael ôl. Mae cynulleidfaoedd yn darganfod ei ffawd ar y llawr dawnsio rhithiol, gyda DJ yn cymysgu clasuron clwb, caneuon pync ac anthemau pop. Gallwch brofi y gwych a’r gwachul o’r gwrthryfel, gyda thwmpath ffyrnig, cystadlaethau dawnsio, gwarchae, brad a dichell. Trochwch eich hunain yn hanes Cymru ond gyda gwahaniaeth.

Wedi’i berfformio’n ddwyieithog, gall cynulleidfaoedd weld aelodau cynulleidfaoedd eraill yn dawnsio i’r baledi pŵer ac anthemau o Donna Summer i Tampe Impala, Blondie i The Sex Pistols, yn ogystal â cherddoriaeth Gymraeg gan Gwenno ac Ifan Dafydd, gan ymgolli yn hanes Cymru.

Cafodd Disgo Zoom Disco gyda Owain Glyndŵr ei greu gan Deborah Light, Eddie Ladd a Gwyn Emberton a’i gynhyrchu gan Laura H Drane. Fe’i comisiynwyd gan Croeso Cymru yn 2017 ar gyfer cestyll gogledd Cymru gyda dynodiad Treftadaeth Byd UNESCO, a chafodd ei enwebu ar gyfer gwobr Arloesedd Busnes Twristiaeth. Yn 2019 roedd yn rhan o arddangosiad dawns Prydeinig Surf the Wave ac roedd cynlluniau ar gyfer taith ar draws Prydain ac yn rhyngwladol nes digwyddodd COVID-19.

Dywedodd Eddie Ladd, y cyfarwyddwr: “Fi mor falch ein bod ni’n rhan o ŵyl Green Man! A mor falch, ac yn y cyfnod rhyfeddol hwn, lle nad oes clwb ar agor, bo’ ni’n galled cynnig disgo cartref mawreddog i chi. Ma’ fe’n rhywbeth i neud y tro, i 'shiffto' fel y’ ni’n gweud yn y gorllewin, so shifftwch hi. Disgo Zoom Disgo - cystel â’r un mewn castell. Meddiannwch eich anheddfan!”

Bydd Disgo Zoom Disgo gdg/feat. Owain Glyndŵr yn rhan o Ŵyl Ar-lein Green Man ar 22 Awst 2020 3pm a 7pm. Mae tocynnau ar gyfer y profiad rhyngweithiol lle byddwch mewn amgylchedd Zoom yn rhad ac am ddim ac ar gael o Green Man/ EventBrite; mae nifer y tocynnau yn gyfyngedig.

Cynhelir Field of Streams Green Man 2020 eleni diolch I gefnogaeth Ymddiriedolaeth Green Man, Cyngor Celfyddydau Cymru a Croeso Cymru.

Hefyd ym mis Awst, darlledir CAITLIN gan Light, Ladd ac Emberton fel rhan o raglen ar-lein Zoo Venues, ar ôl canslo Gŵyl Ymylol Caeredin. Mae CAITLIN wedi teithio i bob rhan o Gymru a Phrydain a theithiodd i India yn 2019. Roedd y sioe yn rhan o Arddangosiad y Cyngor Prydeinig yng Ngŵyl Ymylol Caeredin yn 2017 a nawr gall cynulleidfaoedd weld y fersiwn a ffilmiwyd gan y CCB ar safle Zoo TV https://www.zoofestival.co.uk/schedule o ddydd Gwener 21 Awst am 7 diwrnod. Rhoddir y cyfraniadau i gefnogi’r cwmnïau y caiff eu gwaith ei ddangos.

https://www.greenman.net/artists/light-ladd-and-emberton/?fbclid=IwAR3-uHY7Xd_v…

Image -

Screenshot (43).png

Disgo Zoom Disco gdg/feat. Owain Glyndŵr

Llun - Green Man : Festival of Streams Awst 2020.

Mwy