amser / time

Ffilm newydd yw amser/time gyda Culture Colony ar gyfer BBC a One Dance UK #dancepassion.

Mae tri pherson yn symud rhwng tir a môr ar dri safle rhyfeddol ar hyd Bae Ceredigion/Cardigan Bay. Rydyn ni’n cychwyn 20,000 mlynedd yn ôl ac yn cyrraedd argyfwng hinsawdd ein dyddiau ni.

Mae’r ffilm newydd fer hon gan Light Ladd Emberton, a grëwyd yn ystod hydref/gaeaf 2021 ar draws tri safle arfordirol - Sarn Gynfelyn, Borth, Fairbourne – yn archwilio 20,000 mlynedd ym Mae Ceredigion / Cardigan Bay.

Dan gyfarwyddyd Deborah Light ar sail cysyniad a choreograffi gan Light Ladd Emberton. Ffilmiwyd a golygwyd gan Pete Telfer (Culture Colony) gyda Rob Key (drôn a gimbal) a’r Cynorthwywyr Camera Lowri Paige, Kieran Shand, Felix Cannadam. I gyfeiliant sgôr sain gwreiddiol gan Sion Orgon. Cynhyrchwyd gan Laura H Drane. Perfformiwyd gan Eddie Ladd, Deborah Light, Jake Nwogu. Gyda diolch i cyngor celfyddydau cymru & Llywodraeth Cymru

Next
Next

Climate Pursuits | Hel yr hinsawdd