Climate Pursuits
Hel yr hinsawdd

Yng Ngorffennaf 2021 byddwn yn rhan o Ŵyl Ar-lein Climate Encounters Yorkshire Dance.

Rydym yn rhannu ein hymchwil presennol tuag at gyfres o gynyrchiadau sy’n ymdrin â’ r argyfwng hinsawdd. Byddwn hefyd yn sôn am sut yr ydym wedi bod yn gweithio trwy’r pandemig, yn bell oddi wrth ein gilydd ar draws Cymru ac o wahanol siroedd a byddwn hefyd yn gofyn i’n hunain sut y gallwn ni weithio mewn argyfwng hinsawdd, a sut mae ein gwaith yn ymateb iddo?

Trwy gydol ein gwaith ymchwil rydym wedi dod o hyd i linynnau hinsawdd, gwladychiaeth a chyfalafiaeth ac rydym yn plethu’r rhain at ei gilydd gyda storïau lleol cymhleth o Gymru sy’n cyd-fynd â naratifau byd-eang. Mae’r rhain yn cynnwys y berthynas rhwng ffermio hynafol a modern a lefelau defnydd; gormod o ddŵr (ee erydu, llifogydd, meiriol) neu rhy ychydig (ee sychder, cronfeydd, llygredd) a gwadu’r argyfwng hinsawdd a damcaniaethau am gynllwynion. Byddwn hefyd yn rhannu ein hymchwil ar yr hinsawdd ac effaith pobl ar Fae Ceredigion: trwy amser daearegol, chwedlau Cymru, hanes trefi ar yr arfordir a adeiladwyd ar sail cyfoeth diwydiannol o Loegr, a bygythiadau presennol i gymunedau fel Fairbourne (a all fod y pentref cyntaf yn y Deyrnas Unedig i gael ei ddatgomisiynu oherwydd bod lefel y môr yn codi)

Byddwn yn rhannu ein prosesau ymchwil a’n canfyddiadau, ein harchwiliadau ymchwil ar safleoedd, a’r camau posibl wrth symud ymlaen.

Bydd ail ran y sesiwn yn cael ei harwain gan Vikram Iyengar, artist dawns llawrydd a choroegraffydd sy’n gweithio o Kolkata, India (Cyfarwyddwr Artistig Ranan, a Sylfaenedd/Cyfarwyddwr Pickle Factory Dance Foundation). Bydd hyn yn symud i drafodaeth agored gyda’r rhai fydd yn bresennol.

Er mwyn archebu lle ewch i wefan Climate Encounters

Previous
Previous

amser / time

Next
Next

Danfona Ddawns | Deliver A Dance